Her Mathŵyl Cymru 23-29 Tachwedd 2026
FAINT O SGWARIAU?
Gwnewch sgwariau drwy uno 4 dot ar y grid. Mae gan y sgwâr lleiaf ar y grid arwynebedd o 1 uned sgwâr. Beth yw arwynebeddau’r ddau sgwâr sydd i’w gweld? Dewch o hyd i sgwariau ag arwynebeddau gwahanol. Mae 50 sgwâr i gyd. Allwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd?
Chwaraewch y Gêm Sgwariau.
Bydd athrawon yn dod o hyd i fersiynau ar gyfer grwpiau oedran gwahanol, ac atebion, yn y Canllaw Cynhwysiant a Dysgu Gartref.
GÊM SGWARIAU
SGWARIAU – GÊM I DDAU
Defnyddiwch grid dotiau a chymerwch eich tro i hawlio pwynt a’i farcio â’ch lliw chi. Y person neu’r tîm cyntaf i gael 4 o’u marcwyr ar fertigau sgwâr sy’n ennill y gêm.
MATHEMATEG POBL – GÊM I DDAU DÎM
Fel gêm dîm, gallwch ddefnyddio 16 cadair neu 16 marciwr ar y llawr. Mae’r timau’n cymryd eu tro i ddewis pwynt, ac mae aelod o’r tîm yn eistedd ar y gadair neu’n sefyll ar y pwynt a ddewiswyd.
Y tîm cyntaf i gael 4 o’u chwaraewyr ar fertigau sgwâr sy’n ennill y gêm.
Mae gweddill y dolenni ar y dudalen hon yn arwain at adnoddau Saesneg.
Bydd gennych well siawns o ennill os ydych chi’n gwybod am bob sgwâr posibl ar y grid. Gweler y pos ‘Faint o Sgwariau’.
Cliciwch yma am daflen waith y GÊM SGWARIAU, gyda fersiynau gwahanol o’r gêm a gridiau i chwarae arnyn nhw.
Cliciwch yma am ragor o gridiau i chwarae arnyn nhw.
Cliciwch yma am y CANLLAW CYNHWYSIANT A DYSGU GARTREF
Cliciwch yma am y NODIADAU I ATHRAWON
Cliciwch yma am boster y GÊM SGWARIAU.
Cliciwch yma am adnoddau DPP hunangymorth AIMSSEC ar Geofyrddau.
Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i addasu o dasg NRICH SQUARE IT gyda chaniatâd Prifysgol Caergrawnt. Cedwir pob hawl.
Login
SUPPORT AIMSSEC





